Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd
Prif adeilad Prifysgol Caerdydd
Arwyddair "Gwirionedd Undod A Chytgord"
Sefydlwyd 1883 (fel University College of South Wales & Monmouthshire)
Canghellor Syr Martin Evans
Is-ganghellor Yr Athro Colin Riordan
Staff 5,230
Myfyrwyr 30,930[1]
Israddedigion 21,800[1]
Ôlraddedigion 7,840[1]
Myfyrwyr eraill 1,290[1]
Lleoliad Caerdydd, Baner Cymru Cymru
Campws Trefol
Lliwiau Du a choch
Tadogaethau Russell Group
EUA
Prifysgol Cymru
Universities UK
Gwefan http://www.caerdydd.ac.uk/

Prifysgol ym Mharc Cathays, Caerdydd a sefydlwyd ym 1883 yw Prifysgol Caerdydd (Saesneg: Cardiff University). Roedd hi'n aelod Prifysgol Cymru tan 2004.

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brif brifysgolion ymchwil y byd, gyda thros 60% o'r ymchwil a wneir yng Nghaerdydd wedi ei ystyried ymysg y gorau yn y byd.[2] Yn hynny o beth, mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion Grŵp Russell.

Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883, ac fe'i gorfforwyd trwy Siarter Frenhinol ym 1884. Ym 1931, gwahanwyd yr Ysgol Feddygaeth oddi wrth y Coleg er mwyn ffurfio Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Ym 1972, ail-enwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel Coleg Prifysgol, Caerdydd.[3] Ym 1988, oherwydd uno Coleg Prifysgol, Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, cafodd y sefydliad yr enw "Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd". Newidiwyd hynny i "Brifysgol Cymru, Caerdydd" ym 1996, a wedyn yn 2004, ail-unwyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru, Caerdydd ac fe gymrodd y sefydliad yr enw swyddogol "Prifysgol Caerdydd".

Fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i’r Gymraeg, mae Prifysgol Caerdydd wedi addo £22,000 i ŵyl flynyddol Tafwyl mewn prif gytundeb noddi tair blynedd.[4]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 20 Ebrill 2008.
  2. http://www.guardian.co.uk/education/2009/may/10/universityguide-cardiff-uni Canllaw y Guardian i'r Brifysgol, 2013.
  3. http://www.hefcw.ac.uk/about_he_in_wales/higher_education_institutions/cardiff_university.aspx Archifwyd 2013-07-27 yn y Peiriant Wayback Tudalen y Brifysgol ar wefan HEFCW.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-20. Cyrchwyd 2014-04-01.

Developed by StudentB